Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Rhagfyr 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:18 - 12:04 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Ken Skates Rhodri Glyn Thomas Joyce Watson Lindsay Whittle Kirsty Williams |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Clive Betts MP, Pwyllgor Dethol Cymunedau a Llywodraeth Leol Mike Burtonwood, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Louise Davies, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Helen Kellaway, Llywodraeth Cymru Alyn Williams, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Helen Finlayson (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black. Roedd Kirsty Williams yn dirprwyo.
2. Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 6
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan banel o Awdurdodau Lleol: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Gyngor Sir Powys. Nid oedd y cynrychiolydd yn gallu bod yn bresennol.
3. Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 7
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth.
Egwyl
Cafodd Clive Betts AS ei oedi oherwydd problemau teithio. Cytunodd y Pwyllgor i gymryd egwyl tan y byddai’n cyrraedd. Yn ystod y cyfnod hwn, achubodd y Pwyllgor ar y cyfle i drafod y dystiolaeth a gafwyd yn ystod sesiynau tystiolaeth blaenorol.
4. Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth 8
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Clive Betts AS, Cadeirydd Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol Tŷ’r Cyffredin.
4.2 Cytunodd Mr Betts i anfon gwybodaeth berthnasol ymlaen am unrhyw gyngor y cafodd y Pwyllgor Dethol ynghylch defnyddio profion ‘person addas a phriodol’ gyda pherchenogion a/neu reolwyr safleoedd.
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
5.1 Ni wnaed y Cynnig.
6. Ystyried Tystiolaeth ar Fil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr egwyl breifat.
7. Blaenraglen Waith y Pwyllgor - cytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad nesaf
7.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ei ymchwiliad nesaf i Addasiadau yn y Cartref. Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio’n fuan.
8. Papurau i'w nodi
8.1 Nodwyd y papurau.
8.1 Papur i'w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth - y diweddaraf ar argymhellion yr adroddiad
8.2 Papur i'w nodi - Tystiolaeth ychwanegol gan Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 24 Hydref
Trawsgrifiad